Neidio i’r cynnwys

Lluosi

Mae Lluosi yn cael ei lansio eleni ar draws y Deyrnas Unedig. Bydd yn cynnig cyfle hawdd i ddilyn cyrsiau rhifedd am ddim, sef cyrsiau lle gallwch chi ennill cymhwyster, a meithrin eich hyder i ddefnyddio rhifedd yn y gwaith neu yn eich bywyd bob dydd.

Gallwch chi fanteisio ar raglen Lluosi os ydych chi’n 19 oed a throsodd ac os nad oes gennych chi TGAU mewn mathemateg gyda gradd C (neu gymhwyster cyfatebol).

Bydd yna gyrsiau i ddechreuwyr ac i'r rhai a hoffai adeiladu ar sylfeini eu gwybodaeth am fathemateg – hyd at gyrsiau uwch fel TGAU Mathemateg, Cymhwyster Sgiliau Gweithredol Lefel 2, neu gymhwyster cyfatebol. Mae tiwtorialau a chynnwys ar-lein ar gael hefyd, felly fe fyddwch chi’n gallu dysgu ar gyflymder sy'n addas i chi.

Ar gael i:

Oedolion 19 oed a throsodd sydd heb TGAU mewn mathemateg yn barod ar radd C (neu gymhwyster cyfatebol)

Hyd:

Yn amrywio

Cyfyngiad oedran:

19 a throsodd

Math o gwrs:

Yn-y-gweithle, Ar-lein, Cyrsiau byr

Cost:

rhad ac am ddim

Sut I wneud cais:

Mae Lluosi yn cael ei lansio eleni. Yn y cyfamser, gallwch chwilio am ffyrdd i wella'ch sgiliau, neu cymerwch ein cwis byr sy’n gallu’ch helpu i ddeall ble y gall fod angen ichi loywi’ch sgiliau rhif.

Mae Lluosi yn rhaglen newydd sy’n cael ei hariannu gan y llywodraeth i helpu oedolion ledled y Deyrnas Unedig i wella’u sgiliau mewn rhifedd.

Mae sgiliau da mewn rhifedd yn eich helpu:

  • i agor cyfleoedd gwaith newydd neu i symud ymlaen yn eich gwaith
  • i ennill cyflogau uwch
  • i gymryd y cam nesaf tuag at lefelau uwch o hyfforddiant, er enghraifft, yn Lloegr, prentisiaeth neu gymhwyster lefel 3 (sy’n cyfateb i Lefel A).

Mae hwb i’ch gallu mewn rhifedd hefyd yn gallu helpu gyda thasgau bob dydd fel deall biliau a chyllidebu.

P’un a ydych chi am roi hwb i’ch sgiliau mewn rhifedd er mwyn symud ymlaen yn y gwaith neu i helpu gyda thasgau dyddiol, efallai mai Lluosi yw’r cam nesaf tuag at ddatgloi eich potensial.


Gwirio’ch lefel rhifedd:

Bydd ein cwis byr yn eich helpu i ddeall ble y gall fod angen ichi loywi’ch sgiliau rhif.

Mae yna chwe chwestiwn amlddewis. Bydd y cwis yn cymryd rhyw bum munud i’w gwblhau ac fe gewch chi ddefnyddio cyfrifiannell os ydych chi’n dymuno. Bydd y cwis hefyd yn helpu i esbonio sut i gyrraedd yr ateb cywir.

 

Cymerwch y cwis yma linc yn agor mewn tab newydd

Cynnwys y rhaglen:

Bydd cannoedd o gyrsiau ar gael yn rhad ac am ddim. Bydd y rhain yn ymdrin ag ystod eang o sgiliau rhifedd, o gyrsiau i ddechreuwyr i gyrsiau uwch. Bydd ein cyrsiau rhifedd yn cynnwys:

  • cyrsiau yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys cyrsiau rhan-amser a chyrsiau gyda’r nos, i’ch helpu i ennill cymhwyster
  • cyrsiau sydd wedi’u bwriadu i gynyddu hyder gyda rhifau fel y cam cyntaf tuag at gymhwyster
  • rhaglenni sy’n cael eu cyflwyno ar y cyd â thiwtorialau ar-lein pan fydd cyflogwyr yn gofyn amdanyn nhw
  • canllawiau a chymorth sy’n gosod mathemateg yn gyd-destun bob dydd dealladwy

Bydd llwyfan digidol Lluosi ar gael yn nes ymlaen eleni ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae wedi’i fwriadu i fod yn hyblyg ac ar gael ar alw, er mwyn ichi ffitio’ch gwaith dysgu i gyd-fynd â’ch bywyd neu’ch ymrwymiadau eraill.

P’un a hoffech chi roi hwb i’ch sgiliau ar-lein ynteu yn bersonol, fe fydd yna rywbeth sy’n addas i chi.


Cost:

Am ddim – mae Lluosi yn cael ei ariannu’n llawn gan y llywodraeth.


Meini prawf cymhwystra:

Byddwch yn gymwys i ymuno â rhaglen Lluosi os ydych chi:

  • yn 19 oed a throsodd
  • yn byw yn y Deyrnas Unedig
  • heb TGAU mewn mathemateg ar radd C (sy’n cyfateb i radd 4 neu TAG gradd 1), neu gymhwyster cyfatebol

Bydd cyrsiau ‘stafell ddosbarth a chyngor yn amrywio o un ardal i’r llall.


Sut i wneud cais:

Bydd Lluosi yn cael ei lansio eleni. Gallwch gofrestru i fod y cyntaf i wybod pan fydd Lluosi yn cael ei lansio.

Yn y cyfamser, mae yna sawl opsiwn ichi edrych arnyn nhw i helpu i wella’ch sgiliau mewn rhifedd.

Os ydych chi yn Lloegr, gallwch chwilio am gyrsiau rhifedd sydd ar gael nawr drwy gyfrwng Chwilio am Gwrs.

 

Chwilio am gwrs rhifedd linc yn agor mewn tab newydd

Os ydych chi yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, gallwch chwilio am ragor o gymorth ar sut i roi hwb i’ch sgiliau rhifedd.

Rhagor o gymorth linc yn agor mewn tab newydd

Sgiliau Hanfodol – Rhifedd:

Mae rhaglen Lluosi yn gynnig ychwanegol i oedolion i eistedd prawf sgiliau rhifedd hanfodol.

Bydd y cymwysterau hyn yn eich helpu i ennill y sgiliau mewn rhifedd sydd eu hangen arnoch ar gyfer gwaith ac maen nhw’n cael eu cydnabod gan gyflogwyr.

Rhagor o wybodaeth am gymwysterau mewn sgiliau rhifedd hanfodol.

 

Advice and Guidance